AUR: Mewn cydweithrediad â Gŵyl Grefft Cymru

31 July 2026 
Trosolwg
Oriel Canfas mynediad am ddim 6yp, 31 Gorffennaf 2026 canfas.co.uk

I ddathlu dychweliad yr Eisteddfod Genedlaethol i Aberteifi am y tro cyntaf ers 850 o flynyddoedd, mae Oriel Canfas a Gŵyl Grefft Cymru yn cyflwyno Aur — arddangosfa sy'n dod â Medalwyr Aur mewn celf gain a chrefft at ei gilydd. Wedi'i churadu gan Suzi Park a Sarah James MBE, Cyfarwyddwr Crefft yng Nghymru, mae'r arddangosfa yn agor y noson cyn yr Eisteddfod gyda digwyddiad arbennig yn y dref ar 31 Gorffennaf, gyda cherddoriaeth gan Julie Murphy a Ceri Rhys Matthews o Fernhill.
Fel noddwr o'r Fedal Aur ar gyfer Celf Gain yn Eisteddfod y Garreg Las eleni, mae Oriel Canfas wedi dod â nifer o enillwyr medal blaenorol at ei gilydd ar gyfer yr arddangosfa hon. Mae Aur yn rhedeg 1 Awst – 13 Medi, yn cau i gyd-fynd â dychweliad Gŵyl Grefft i Gastell Aberteifi, union gyferbyn â'r oriel, 11–13 Medi.