Sarah Lees RCA
“Yn y gwanwyn bydd fy meddylie yn troi at lefydd gwyllt wrth i fi sylwi ar imprint tenau, ffresh yr haul ar gaeau a choedydd. Mae’r gwres yn dod â phalet newydd o liwiau pridd, ac mae marciau hynafol y caeau a meini gorweddiog yn thema sy’n ail-adrodd.”

Yng nghefn gwlad sir Gaerfyrddin mae Sarah yn byw ac mae ei gwaith yn canolbwyntio ar iaith weledol y tir a sut y cafodd ei ffurfio gan ein ymyrraeth ni. Nid oes presenoldeb pobl yn ei thirluniau, dim ond olion y cynllun amrwd a adawyd: ffiniau wedi eu crafu nôl, llwyni a chlystyrau coed tenau, lonydd a throeon afon. Mae gwaith Sarah yn dychwelyd yn aml at ymylon y tir lle mae terfyn amaethu a thir gwyllt yn cyd-daro, ac mae’n ail-ymweld â hoff lefydd er mwyn ceisio dal yr hyn sy’n gwneud tirwedd mor symbylol. Mae’n paentio ar banel, gan dalu sylw i fanylion arwynebedd ac yn paentio drosto gyda gwydreddau meddal, tyner i greu dyfnder. Mae hefyd yn gweithio nôl gyda marciau ac imprintiau i roi mynegiant, gan dalu sylw gofalus i’r arwynebedd terfynol. Mae gweithio yn yr awyr agored yn rhan hanfodol o broses Sarah, gan gynhyrchu gwaith cefnogi a chyfoethogi wedyn yn y stiwdio.