Helen Sinclair
"Rwy’ wedi bod yn cerflunio ers dros dri deg o flynyddoedd ac mae’r broses yn bleser llwyr i fi o hyd. Gyda phob darn rwy’n ei greu, rwy’n canfod rhywbeth cysurus o gyfarwydd a rhyfeddol o ffres yn y broses waith.”
Ganwyd a magwyd Helen yn Sir Gâr a chyflawnodd ei chwrs Sylfaen yn Ysgol Gelf Caerfyrddin yn 1972-73. Astudiodd gerflunio yn Ysgol Gelf Wimbledon gan raddio yn 1976 ac mae wedi gweithio fel cerflunydd llawn amser ers 1988. Mae’r corff dynol a’r ffyrdd y cafodd ei ddisgrifio ar hyd y canrifoedd yn ysbrydoliaeth iddi, wrth iddi greu darnau lled-ffigurol wedi eu castio mewn resin neu efydd o’r gwreiddiol mewn plastr, clai, cwyr neu bren. Mae Helen yn byw ar arfordir Penrhyn Gŵyr ac felly mae rhoddion o’r môr yn aml yn cyflwyno geirfa gerfluniol newydd i’w gwaith ac yn cynnig her o ran syniadau a phwnc gwaith. Mae Helen yn arddangos yn eang ledled Prydain, yn enwedig yn Sioe Flodau Chelsea ac mae ei gwaith mewn casgliadau ledled y byd. Mae comisiynau cyhoeddus o’i gwaith yn Eglwys Gadeiriol Chichester, Eglwys yr Holl Saint, Fulham ac Eglwys Gadeiriol Aberhonddu. Mae’n byw a gweithio gyda’i gŵr Terry Ryall ac mae’n Llywydd y Society for Women Artists.

