Bywgraffiad

"Mae fy ngwaith yn eistedd rhwng y cyfarwydd a’r arall-fydol, gan ddefnyddio iaith yr isymwybod i archwilio emosiwn a sut y’n ni’n trawsffurfio."

 

Ffotograffydd swreal yn Llundain yw Shirin. Ganed hi i dad o Loegr a mam o Iran a bu’n byw yn Sydney, Tehran, Llundain a Perth cyn dechrau yn yr ysgol. Mae’r fagwraeth grwydrol, aml-ddiwylliannol yma – y profiad cynnar o amgylcheddau a hunaniaeth yn newid – yn ffurfio ei gwaith trwy wreiddio ei delweddaeth unigryw ym mynegiant emosiwn ac atgof. Mae Shirin yn gweithio’n reddfol i adeiladu golygfeydd allan o elfennau niferus y mae hi wedi eu ffotograffio, yn aml gan gynnwys hunan-bortread, er mwyn creu bydoedd breuddwydiol eu naws. Yna, caiff y ffotograffau hyn ymdoddi i’w gilydd yn grefftus er mwyn creu’r gweithiau celf, pob un yn cynrychioli ennyd mewn amser, tudalen weledol o ddyddiadur parhaus lle mae’r swreal yn dod yn ffordd o fynegi rhywbeth sy’n anodd ei roi mewn geiriau. Mae ei gwaith yn eistedd rhwng y cyfarwydd a’r arall-fydol, gan ddefnyddio iaith yr isymwybod i archwilio emosiwn a sut y’n ni’n trawsffurfio. Trwy’r broses hon mae’r hyn sy’n bersonol o ddwfn iddi yn atseinio fel profiad dynol a rennir gan bawb.

 

Gweithiau
  • Shirin Town, Debut (Rabbit #01)
    Debut (Rabbit #01)
  • Shirin Town, Fragile Ruin
    Fragile Ruin
  • Shirin Town, Liminal Drift
    Liminal Drift
  • Shirin Town, Secours
    Secours
  • Shirin Town, Strawberries with Odin
    Strawberries with Odin
  • Shirin Town, Subjective North (Rabbit #02)
    Subjective North (Rabbit #02)
  • Shirin Town, Tempest
    Tempest
  • Shirin Town, The Ritual
    The Ritual
  • Shirin Town, Undertow
    Undertow
Ymholi

Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amShirin Town

Please fill in the fields marked with an asterisk
Derbyn cylchlythyrau *

* denotes required fields

Er mwyn ymateb i'ch ymholiad, byddwn yn prosesu'r data personol a roddwyd gennych yn unol â'n polisi preifatrwydd (ar gael ar gais). Gallwch ddad-danysgrifio neu newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg drwy glicio'r ddolen yn ein e-byst.