Pierre Williams
“Nid ymdrech gorfforol ond un feddyliol hefyd oedd fy ymryson i fod yn artist, pan oedd yn rhaid i fi weithio ar swyddi eraill er mwyn gallu dilyn fy mreuddwydion.”
Mae celf wedi bod yn edefyn canolog ym mywyd Piere Williams ar hyd ei oes, gan esblygu o luniadu cynnar at serameg cymhleth a phaentiadau olew mawr maes o law. Hyfforddodd yn wreiddiol fel Peiriannydd Datblygu, ond trwy ei ymroddiad i’w ymarfer artistig cafodd ei arwain at radd mewn serameg yng Nghaerdydd, lle dyfnhawyd ei sgiliau technegol a’i ddealltwriaeth feirniadol gan astudiaeth academaidd. Wedi graddio, dechreuodd adeiladu gyrfa faith y maes addysg celf, yn gyntaf trwy redeg yr adran serameg yng Ngholeg Celf Henffordd ac yna symud i rôl addysgu arbenigol yng Ngholeg Cenedlaethol Brenhinol y Deillion. Gydag ymennydd peiriannydd fe ddatblygodd ddull uniongyrchol, datrys-problemau i’w ymarfer artistig, tra’n cael ei ddylanwadu’n fawr gan ei fyfyrwyr hefyd, ond ffurfiau cerfluniaeth glasurol sydd wedi bod yn sylfaen strwythurol i waith Pierre erioed.

