Clare Rose
“Effeithiau goleuni ar unrhyw bwnc sydd wedi hoelio fy sylw i."
Tyfodd Clare i fyny yn blentyn ifancaf mewn teulu mawr, a’i throchi’n gynnar mewn cartref creadigol dan arweiniad mam artistig, llawn syniadau a ysbrydolai weithgaredd dychmygus bob dydd. Arweiniodd yr amgylchedd ffurfiannol hwn at ddiddordeb dwfn mewn pobl a’r cyflwr dynol, themâu a oedd yn ganolog i’w gwaith portreadu cynnar. Dros amser, bu’n canolbwyntio fwyfwy ar symudiad goleuni, tirweddau a ffurfiau naturiol sir Benfro. Mae ei gwaith cynrychioladol, a wreiddiwyd mewn arsylwi gofalus, wedi esblygu i fod yn gyfansoddiadau mwy haniaethol a seiliwyd ar atgof ac emosiwn, gan wahodd gwylwyr i rannu mewn dehongliad synhwyraidd. Mae wedi arddangos mewn arddangosfeydd unigol a grwp ledled Cymru a hi oedd yr artist benywaidd a chyn-fyfyriwr cyntaf i dderbyn comisiwn i baentio Llywydd Prifysgol Aberystwyth ar ei ymddeoliad, yr Arglwydd Elystan Morgan.

