Rebecca Williams

Bywgraffiad

"Mae fy ngwaith wedi ei wreiddio yn y tir, y môr a'r glannau. Dw i ohyd yn cael fy swyno gan batrymau, rhythmau a manylder byd natur a dw i'n ceisio cyfleu yr hyn sy'n weledol a'r hyn a allai fod o dan yr wyneb."

Mae’r serameg a wnaed â llaw gan Rebecca Williams yn crisialu ffurf, lliwiau, planhigion ac anifeiliaid gwlad ei mebyd, Sir Benfro, ar gyrion gorllewinol Cymru. Mae hi’n cyfuno ei phrofiad fel cerflunydd a thechnegydd archaeolegol a’i harsylwadau craff o’r amgylchedd naturiol ac adeiledig i greu gwaith ag uniondeb artistig ac ymarferol. Mae Rebecca yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, ac mae ganddi hanes teuluol hynod ddiddorol wedi’i blethu o fywydau ffermwyr a morwyr, gwneuthurwyr les, cyfreithwyr a phenseiri. Astudiodd yn Central St Martins a bu’n byw yn yr Almaen am flynyddoedd lawer. Mae ei Halmaeneg rugl a’i gwybodaeth am gelf a dylunio wedi arwain at lawer o gomisiynau i gyfieithu testunau a chatalogau ar gyfer amgueddfeydd, gan gynnwys y Bauhaus Museum Dessau a’r Kunsthistorisches Museum yn Fienna. Odyn Ddu yw enw un o gaeau ei thad ger Tremarchog. Dyma safle odyn hynafol a oedd yn cynhyrchu potiau wedi’u gwneud o’r clai tywyll ychydig o dan wyneb y tir.

Gweithiau
  • Rebecca Williams, Conkers
    Conkers
  • Rebecca Williams, Gwymona Elliptical Pot- Large
    Gwymona Elliptical Pot- Large
  • Rebecca Williams, Gwymona Elliptical Pot- Small
    Gwymona Elliptical Pot- Small
  • Rebecca Williams, Gwymona Platter- Large
    Gwymona Platter- Large
  • Rebecca Williams, Gwymona Pot with Handles
    Gwymona Pot with Handles
  • Rebecca Williams, Gwymona Pot- Large
    Gwymona Pot- Large
  • Rebecca Williams, Gwymona Pot- Small
    Gwymona Pot- Small
  • Rebecca Williams, Gwymona Round Platter
    Gwymona Round Platter
Ymholi

Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amRebecca Williams

Please fill in the fields marked with an asterisk
Derbyn cylchlythyrau *

* denotes required fields

Er mwyn ymateb i'ch ymholiad, byddwn yn prosesu'r data personol a roddwyd gennych yn unol â'n polisi preifatrwydd (ar gael ar gais). Gallwch ddad-danysgrifio neu newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg drwy glicio'r ddolen yn ein e-byst.