Sally James Thomas

Bywgraffiad

“Yn y pen draw, mae fy ngwaith yn ceisio cymodi’r gwrthdaro rhwng trwsio positif a symudiadau ideolegol sydd ynghlwm â ‘byw gyda’r byd gwyllt’.”

 

Mae byw a gweithio mewn amgylchedd arfordirol, gwledig yn dylanwadu’n gyson ar ddefnydd Sally o liw, gosod marciau a thestun. Mae’n archwilio nerth a phresenoldeb trwy gyfuniad o dechnegau, a gwrthgyferbynnu hyn gyda braenu a byrhoedledd. Caiff ffurfiau naturiol a synthetig eu cyfuno yn ei gwaith, gan adlewyrchu’r simsanrwydd creulon sy’n wynebu byd natur sy’n ceisio goroesi. Mae’r bygythiadau i’r byd naturiol a’i harddwch ystyfnig yn edefyn cyson. Cynigiodd yr amser a dreuliodd ar ynys Skomer gipolwg ar fywyd cyfochrog adar y môr – dangosyddion argyfwng hinsawdd, yn lleol a byd-eang. Mae llwybrau mudo a ffiniau gaiff eu croesi yn siarad â’r ‘arall’; mae bywydau absennol, sydd heb eu dangos yn eglur yn cyfeirio at y pellter cynyddol rhwng dynoliaeth a byd natur. Mae ei hymarfer printio arbrofol yn defnyddio pob techneg am ei nodweddion cynhenid yn hytrach nag er mwyn creu nifer lluosog. Mae platiau’n creu haenau a chysylltu gyda phaentiad, pwyth a gwrthrychau, gan greu gwahoddiad i gyffwrdd. Enillodd Sally Wobr John Purcell yn y Print International Biennale 2021 a caiff ei chynrychioli gan Galeri Celf, Caerdydd.

 

Gweithiau
  • Sally James Thomas, Through Day
    Through Day
  • Sally James Thomas, To Earth
    To Earth
  • Sally James Thomas, Tracking IV
    Tracking IV
  • Sally James Thomas, Vapour Trails
    Vapour Trails
  • Sally James Thomas, Cradled
    Cradled
  • Sally James Thomas, Observatory
    Observatory
  • Sally James Thomas, Plinth
    Plinth
  • Sally James Thomas, Rise
    Rise
  • Sally James Thomas, Storm off Pencaer
    Storm off Pencaer
  • Sally James Thomas, Strange Morning
    Strange Morning
Ymholi

Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amSally James Thomas

Please fill in the fields marked with an asterisk
Derbyn cylchlythyrau *

* denotes required fields

Er mwyn ymateb i'ch ymholiad, byddwn yn prosesu'r data personol a roddwyd gennych yn unol â'n polisi preifatrwydd (ar gael ar gais). Gallwch ddad-danysgrifio neu newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg drwy glicio'r ddolen yn ein e-byst.