Bywgraffiad

“Mae popeth dwi’n ei wneud yn arbrawf – pob darn yn unigryw.”

Mae Nick wedi gweithio mewn pren, lledr, carreg a metel am dros 47 o flynyddoedd, yn cynllunio a chreu celfi, cerfluniau a darnau ffurf-ddefnyddiol a ysbrydolwyd gan dirwedd Gogledd sir Benfro. Wedi astudio yng Ngholeg Celf Caerlŷr a Choleg Celf Loughborough, treuliodd ddeuddeg mlynedd yn gweithio ochr yn ochr â’r diweddar John Cleal. Caiff ei dywys gan ei ymateb sensitif dwfn i harddwch tawel ac i’r llinellau sy’n gynhenid ym myd natur. Yn ei waith diweddar mae’n edrych ar symudiad ac ar botensial mynegiannol pren. Gan gynnwys cerrig mân, copr a gorffeniadau wedi carboneiddio, mae’n astudio llif llinellau, gwead a lliw. Mae pob darn yn arbrawf unigryw, gan arwain yn naturiol i’r nesaf, wrth iddo geisio harmoni rhwng ffurf, llinell a mynegiant. Mae ei gerfluniau cyffyrddadwy yn gwahodd y gwyliwr i werthfawrogi’n weledol a chyffwrdd â llaw.

 

Gweithiau
  • Nick Kinver, As One
    As One
  • Nick Kinver, Cockerel
    Cockerel
  • Nick Kinver, Seed IV
    Seed IV
  • Nick Kinver, Seed V
    Seed V
  • Nick Kinver, Solstice
    Solstice
  • Nick Kinver, You've Got This
    You've Got This
Ymholi

Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amNick Kinver

Please fill in the fields marked with an asterisk
Derbyn cylchlythyrau *

* denotes required fields

Er mwyn ymateb i'ch ymholiad, byddwn yn prosesu'r data personol a roddwyd gennych yn unol â'n polisi preifatrwydd (ar gael ar gais). Gallwch ddad-danysgrifio neu newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg drwy glicio'r ddolen yn ein e-byst.