Errol Fuchs
"No Mierda Del Toro"
Mae Errol yn ennill y wobr am gyflawni’r flwyddyn fwlch hiraf yn y byd. Wedi ei gwrs Sylfaen yng Ngholeg Celf a Dylunio Wolverhampton, fe drodd ‘saib fer’ o fywyd academaidd yn daith hanner canrif trwy ddylunio, ffotograffiaeth a chyd-sefydlu asiantaeth greadigol ryngwladol gyda stiwdios yn Birmingham ac Efrog Newydd. Gan weithio gydag enwau byd-eang ym meysydd telegyfathrebu, moduro, ffasiwn a llywodraeth, fe fireiniodd Fuchs arddull glir, reddfol o gyfathrebu’n weledol.
Ers adleoli i Gymru yn 2014, mae wedi dychwelyd at baentio yn llawn bwriad o’r newydd. Mae ei ymarfer yn archwilio’r diriogaeth ddelicet rhwng cynrychioliad a haniaeth, dan arweiniad ei reddf a’i amharodrwydd i or-ddeallusoli, Caiff ei arwain gan ei fantra personol, ‘No Mierda Del Toro’, mae pob darn o waith yn dod i’r fei yn ei amser ei hun – yn datgan ei rythm, ei emosiwn a’i wirionedd yn dawel.

