Bywgraffiad

“Mae cyfuno fy sgiliau dylunio graffeg a chelfyddyd wedi agor fy mywyd a helpu fi i weld beth sydd yn fy mhen a’i wneud yn realiti.”

 

 

Mae Dawn yn asio engrafiadau hen ffasiwn gyda graffigwaith digidol a ffotograffiaeth i greu dehongliadau haenog o’r byd o’i chwmpas. Mae hi’n cael gafael ar ddelweddau o hen lyfrau o engrafiadau, darganfyddiadau siop elusen, a llu o ffotograffau stoc, gan ddewis cymeriadau gydag agwedd a charisma – pobol fyddech chi’n mwynhau eu cwrdd yn y dafarn. Unwaith maen nhw wedi eu hargraffu ar ganfas, mae hi’n gweithio ar bob darn mewn acrylig, inciau, fflach-lwch a chyfryngau cymysg i adeiladau arwynebeddau llachar a straeon sy’n esblygu. Mae ei thirluniau swreal, cryno a’i phaled lliwiau mentrus yn gwahodd gwylwyr i edrych yn agosach a darganfod ystyron newydd. Gan ddechrau’n aml gyda’i chymeriadau a syniad eithaf rhydd, mae ei gwaith yn datblygu’n rhwydd. Yn ddiweddar cafodd ei dylanwadu gan bortreadau’r Dadeni gan arwain at ei chyfres ddiweddaraf lle mae’n chwarae â’r syniad o ddychmygu’r portreadau fel cynulleidfa a gwesteion yn ei phriodas ei hun. Yn 2025, derbyniodd Dawn wobr “Highly Commended Artist” yng Ngwobrwyon Artist y Flwyddyn y VAA.

Gweithiau
  • Dawn Fincham, Girl Time
    Girl Time
  • Dawn Fincham, Girl Rose
    Girl Rose
  • Dawn Fincham, Boy Toucan
    Boy Toucan
  • Dawn Fincham, Girl Beads
    Girl Beads
  • Dawn Fincham, Girl Cloud
    Girl Cloud
  • Dawn Fincham, Girl Glasses
    Girl Glasses
  • Dawn Fincham, Girl Prey
    Girl Prey
  • Dawn Fincham, Gold Girl
    Gold Girl
  • Dawn Fincham, Tassel Girl
    Tassel Girl
Ymholi

Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amDawn Fincham

Please fill in the fields marked with an asterisk
Derbyn cylchlythyrau *

* denotes required fields

Er mwyn ymateb i'ch ymholiad, byddwn yn prosesu'r data personol a roddwyd gennych yn unol â'n polisi preifatrwydd (ar gael ar gais). Gallwch ddad-danysgrifio neu newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg drwy glicio'r ddolen yn ein e-byst.