Kathy Thomson
“Rwy’n hoffi ymrafael gyda syniadau, cyfansoddiad a phaent, gan ddatgelu’r elfennau sy’n dal popeth ynghyd.”
Hyfforddodd Kathy mewn Celf a Dylunio ac Addysg yn y 1970au ac, wrth ymweld â chasgliad Graham Sutherland yng Nghastell Pictwn yn 1978, syrthiodd mewn cariad â phentir hynafol Tŷ Ddewi. Wedi gyrfa hir yn dysgu plant gydag anghenion arbennig yn Swydd Caint, gan arddangos ei gwaith yn lleol a chymryd rhan yn Stiwdios Agored y De Ddwyrain, fe symudodd yn barhaol i Ogledd sir Benfro yn 2017. Mae ei hymarfer paentio yn dechrau gyda cherdded, arsylwi a braslunio, datblygu ymatebion lled-haniaethol yn y stiwdio i aberoedd, mynydd a thirwedd arfordirol. Gan weithio’n bennaf mewn olew, mae’n adeiladu arwynebeddau haenog, mynegiannol sy’n archwilio cof, awyrgylch a chymeriad cyfnewidiol lle. O’i stiwdio yn edrych dros Garn Ingli ym Mynyddoedd y Preseli, mae’n creu gwaith sy’n cofleidio risg, gwneud adolygiadau a newidiadau greddfol. Iddi hi, mae paentio yn bleser, llawenydd, egni, ymlafnio, brwydr, gwneud a dad-wneud, gan adnewyddu ei hymrwymiad yn gyson i’r dirwedd mae’n ei charu.

